DIM OND 70% O’R SAFLE A GAIFF EI DDATBLYGU!
Mae llawer o Orllewin Rhydycar yn gyfoethog o ran ei ecoleg, gyda rhannau wedi’u dynodi’n SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) neu SINC (Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur). Y cam cyntaf wrth greu’r cynllun adfywio uchelgeisiol hwn oedd deall yr amgylchedd ar draws y safle yn llawn, a defnyddio’r wybodaeth honno i ddylunio mewn cytgord â’r dirwedd.
Mae arolygon wedi’u cynnal ar gynefinoedd, rhywogaethau planhigion, adar (gaeaf a gwanwyn/haf), amffibiaid ac ymlusgiaid, pathewod, ystlumod, moch daear ac infertebratau gan gynnwys pili pala. Fe wyddom fod gwahanol rannau o’r safle yn bwysig ar gyfer ffyngau glaswelltir (fel capiau cwyr) ac maent hefyd wedi’u hasesu gan arolygon arbenigol.
Gwyddom fod y dynodiadau hyn, a’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sy’n sail iddynt, yn her i gyflawni’r prosiect, ond rydym yn benderfynol o weithio gyda’r cyfyngiadau hyn cyn belled ag y bo modd. Ni fydd dros 70% o’r safle yn cael ei ddatblygu, a bydd cynllunio gofalus yn sicrhau bod y rhannau a ddatblygir yn cael eu lleoli’n sensitif a bod unrhyw ddifrod anorfod yn cael ei liniaru neu’i ddigolledu.
DIM OND 70% O’R SAFLE A GAIFF EI DDATBLYGU!
Mae ardaloedd di-goed y safle yn cynnwys glaswelltir corsiog lle ceir glaswellt y bwla yn bennaf, a mwsoglau migwyn mewn rhai mannau. Mae yna laswelltiroedd a rhostiroedd asid sychach i’w gweld ar y tir sy’n draenio’n fwy rhydd, gan gynnwys y tirweddau a grëwyd gan yr hen weithgareddau mwyngloddio.
Mae glaswelltiroedd y safle sy’n draenio’n fwy rhydd yn cynnal casgliad amrywiol iawn o ffyngau glaswelltir, gan gynnwys capiau cwyr, tafodau’r ddaear a “phastynau’r tylwyth teg”. Mae’r glaswelltiroedd llaith hefyd yn gartref delfrydol i frith y gors – pili pala ysblennydd rhytgoch â phatrwm sgwarog sy’n hedfan ym mis Mai a mis Mehefin.
Mae coetir yr ardaloedd ucheldirol yng ngorllewin y safle yn cynnal rhywogaethau adar eiconig a “gorllewinol” megis y tingoch a thelor y coed. Yn yr haf, mae llethrau’r rhostir yn atseinio i byrian hwyrol y troellwr.
Mae arolygon wedi dangos bod y safle’n cynnal sawl rhywogaeth o ystlum, gan gynnwys yr ystlum trwyn pedol mwyaf, a’r barbastél bisâr ei olwg. Mae cyrsiau’r nentydd yn bwysig iddyn nhw gyda rhai rhywogaethau, fel yr ystlum trwyn pedol leiaf, yn clwydo yn strwythurau hanesyddol y safle. Bydd yr holl waith a gyflawnir yn ymatal rhag amharu ar y creaduriaid hyn yn eu cartrefi.
Treuliwch 2 funud i gwblhau ein harolwg cyhoeddus
Gwnewch yr arolwg