HEB OS NAC ONI BAI, MAE HWN YN GYFLE A FYDD YN TRAWSNEWID CYMOEDD Y DE
Ar ôl dod i feddiant y safle yn 2013, aethom ati i’w drin fel cynfas gwag ar gyfer y cynllun gan dreulio cryn dipyn o amser ac adnoddau i ddeall yn fanwl ei nodweddion ecolegol a’i dreftadaeth unigryw, ac i ddylunio cynllun a fyddai’n datblygu’r ardal mewn modd sensitif. Mae llwyddiant y prosiectau adfywio a gafwyd yma’n ddiweddar megis Redhouse Cymru, Coleg Merthyr a datblygiadau fel Parc Manwerthu Cyfarthfa a Melinau Trago, yn dangos bod y rhanbarth yn canolbwyntio ar ddatblygu’r economi.
Mae yna ffocws clir hefyd ar ddatblygu’r ardal ar gyfer chwaraeon antur. Gyda llwyddiant BikePark Cymru a Rock UK, mae cyrchfan chwaraeon a hamdden mewn sefyllfa dda i adeiladu ar y momentwm hwnnw. O ran tai, bydd y gymdogaeth breswyl newydd yn cefnogi’r angen lleol i ddatblygu mwy o gyflenwad yn y tymor hir. Gan gysylltu’r gymdogaeth bresennol â chyrchfan chwaraeon a hamdden eiconig reit wrth stepen y drws, mae Gorllewin Rhydycar yn lleoliad perffaith i gartrefi newydd.
Edrychwch ar yr elfennau a gynigir isod.